EricJONESJONES - ERIC. 29ain o Ionawr 2015. Yn dawel yn ei gartref yng nghwmni ei deulu, o 14, Jones Street, Blaenau Ffestiniog yn 89 mlwydd oed. Priod ffyddlon Lilian, tad cariadus Rhona, tad yng nghyfraith arbennig Kevin, taid arbennig iawn Iola Wyn a Sion, brawd hoff Tommy ac Eryl a'r diweddar Muriel, Mair Wyn, Hubert ag Elwyn, brawd yng nghyfraith annwyl Huw ac Eirlys, Nesta a Dick, Mona a'r diweddar Ken, a'r diweddar John Bryn. Gwelir ei golli gan deulu a ffrindiau oll. Angladd Cyhoeddus yng Nghapel Bowydd, Blaenau Ffestiniog dydd Gwener 6ed o Chwefror am 11:00 y.b. ac yna i ddilyn ym mynwent Llan Ffestiniog. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar os dymunir i'w rhannu rhwng Nyrsus Cymunedol Blaenau a Chyfeillion Ysbyty Alltwen trwy law yr Ymgymerwr Gareth Williams (John Williams a'i Fab) 15 Heol Dorfil, Blaenau Ffestiniog. Ffon: 01766 830 441.
Keep me informed of updates